SL(5)159 – Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2017

Cefndir a diben

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru, ac mae'n pennu'r swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2017 i 11 Medi 2018, at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986.

Y weithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar y rhinweddau

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae'r Gorchymyn yn diffinio “hectar cymwys” drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth yr UE, hynny yw Rheoliad yr UE 1307/2013 sy'n sefydlu rheolau ynghylch taliadau uniongyrchol i ffermwyr o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin.

O dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd) bydd y Rheoliad hwnnw gan yr UE yn cael ei rewi a bydd yn ffurfio rhan o'r gyfraith a gedwir gan yr Undeb Ewropeaidd ar y diwrnod y gadewir yr Undeb. Bydd Rheoliad yr UE o fewn corff cyfraith yr UE a gedwir gan y DU, ac ni ellir ond ei ddiwygio gan Weinidogion y DU a Senedd y DU, felly bydd Gweinidogion y DU neu Senedd y DU yn gallu newid ystyr "hectar cymwys".

Ni fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru na Gweinidogion Cymru yn cael unrhyw bwerau i ddiwygio unrhyw elfen o Reoliad yr UE yn y modd y caiff ei weithredu yng Nghymru, er ei fod mewn maes datganoledig.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

19 Rhagfyr 2017